Neidio i'r prif gynnwy

Arolygwyr yn canfod bod gofal diogel yn cael ei ddarparu yn ysbyty iechyd meddwl Priory Tŷ Cwm Rhondda, ond mae angen gwneud gwelliannau pellach

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (20 Gorffennaf 2023) yn dilyn arolygiad dirybudd o ddwy ward yn ysbyty iechyd meddwl Priory Tŷ Cwm Rhondda a gynhaliwyd ar dri diwrnod dilynol ym mis Ebrill 2023. Yn ystod y cyfnod hwn, arolygwyd nifer o ardaloedd asesu ar Wardiau Cilliad a Chlydwch yn yr ysbyty.

Priory Tŷ Cwm Rhondda - ysbyty iechyd meddwl

Ysbyty iechyd meddwl diogelwch isel ag 20 gwely yw Tŷ Cwm Rhondda, sy'n cynnig triniaeth a gwasanaethau adsefydlu ar gyfer dynion sydd ag anghenion iechyd meddwl cymhleth. Canfu'r arolygwyr fod y staff yn ymrwymedig i ddarparu gofal diogel ac effeithiol a bod protocolau addas ar waith o ran rheoli risg, iechyd a diogelwch a rheoli heintiau. Fodd bynnag, roedd angen gwneud gwelliannau mewn perthynas â'r defnydd o iaith briodol gan y staff, cadw cofnodion a mynediad y cleifion at wasanaethau cymorth iechyd meddwl annibynnol.

Pan ofynnwyd iddynt, roedd y cleifion yn gadarnhaol wrth sôn am eu rhyngweithiadau â'r staff, a gwelodd yr arolygwyr fod y staff yn trin y cleifion ag urddas a pharch. Gwelodd yr arolygwyr gydberthnasau therapiwtig da rhwng y staff a'r cleifion, ond gwelsant rai aelodau o'r staff yn defnyddio iaith amhriodol ac amhroffesiynol wrth gyfeirio at ymddygiad heriol y cleifion. Roedd cyfraddau cwblhau hyfforddiant gorfodol y staff yn uchel, bron 90%, ond rhaid i'r darparwr cofrestredig atgyfnerthu'r defnydd o iaith briodol a phroffesiynol gan y staff a dylai ystyried ddarparu hyfforddiant mewnol yn seiliedig ar werthoedd mewn perthynas â hyn.

Roedd yn gadarnhaol gweld y gallai'r cleifion, eu teuluoedd a'u gofalwyr ymgysylltu â'r gwasanaeth a rhoi adborth ar y gofal a ddarparwyd yn yr ysbyty mewn nifer o ffyrdd. Fodd bynnag, roedd yn annerbyniol nodi bod darpariaeth gwasanaethau Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol wedi'i chyfyngu i alwad ffôn wythnosol heb unrhyw ymweliadau ar y safle. Gwnaethom argymell y dylai'r darparwr ymgysylltu â gwasanaethau eirioli mewn ffordd fwy effeithiol er mwyn sicrhau bod ymweliadau gan wasanaethau cymorth iechyd meddwl annibynnol yn cael eu cynnal ar y safle.

Roedd gan y cleifion eu rhaglen ofal eu hunain a oedd yn adlewyrchu eu hanghenion a'u risgiau unigol, ond nid oedd ‘Byrddau Cipolwg ar Statws Cleifion’ wedi'u harddangos ar y wardiau yn ystod ein harolygiad. Rhaid i'r darparwr cofrestredig sicrhau y gall yr holl staff gael gafael ar wybodaeth y cleifion yn gyflym ac yn hawdd heb beryglu eu preifatrwydd a'u cyfrinachedd.

Ar y cyfan, cawsom sicrwydd bod gan y gwasanaeth brosesau ar waith i reoli ac adolygu risgiau er mwyn helpu i gynnal iechyd a diogelwch y cleifion, y staff a'r ymwelwyr. Roedd Cynlluniau Gofal a Thriniaeth Cleifion yn cael eu cynnal i safon dda ar y cyfan, ond roedd angen gwneud gwelliannau er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chasglu a'i chofnodi mewn ffordd effeithlon a chyson er mwyn gwella arferion gwaith a sicrhau y gall pob aelod o'r staff gael gafael ar y cofnodion. Yn ystod yr arolygiad, roedd yn bryderus gweld enghreifftiau o hen gynlluniau Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol ar gyfer y cleifion nad oeddent wedi cael eu hadolygu na'u diweddaru i adlewyrchu anghenion presennol y cleifion. Roedd y ddogfennaeth statudol a welsom yn cadarnhau bod y cleifion yn cael eu cadw'n gyfreithlon ac mewn modd priodol. Fodd bynnag, roedd angen rhai gwelliannau o ran goruchwylio trefniadau llywodraethu'r Ddeddf Iechyd Meddwl, prosesau archwilio a chwblhau dogfennau. 

Dywedodd y rhan fwyaf o'r staff wrthym eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu rolau a'u bod yn fodlon ar drefniadau rheoli'r sefydliad. Fodd bynnag, cawsom wybod y gallai'r systemau llywodraethu ar wahân sydd ar waith ar gyfer y staff clinigol a staff yr ysbyty achosi anawsterau cyfathrebu rhwng y ddau grŵp weithiau. Yn ystod yr arolygiad, nodwyd nad oedd cyfarfodydd ffurfiol yn cael eu cynnal fel y gallai'r staff roi adborth ar eu profiad yn yr ysbyty.

Gwelsom fod y lefelau staffio yn briodol i gynnal diogelwch y cleifion, ond roedd sawl swydd wag yn mynd drwy broses recriwtio ar adeg ein harolygiad. Mae angen gwneud ymdrech barhaus i recriwtio staff er mwyn cefnogi'r gwaith o ddarparu gofal diogel ac effeithiol.

Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones:

Mae'n galonogol gweld ansawdd y gofal a gaiff ei roi yn ysbyty Priory Tŷ Cwm Rhondda ac ymroddiad staff yr ysbyty i gyrraedd safonau uchel. Nododd ein harolygiad rai meysydd i'w gwella lle mae gofyn i'r gwasanaeth weithredu yn eu cylch. Mae'r lleoliad wedi llunio cynllun cynhwysfawr sy'n nodi camau gwella a byddwn yn parhau i fonitro cynnydd y gwasanaeth yn erbyn hwn.