Neidio i'r prif gynnwy

Arolygiad yn Nodi Arferion Cadarnhaol ond Meysydd Amlwg i'w Gwella ar Wardiau Iechyd Meddwl yng Nghaerfyrddin

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi ei hadroddiad arolygu yn dilyn ymweliad dirybudd ag Uned Diogelwch Isel ac Uned Gofal Seiciatrig Dwys Cwm Seren, sy'n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Roedd yr arolygiad, a gynhaliwyd dros dri diwrnod ym mis Tachwedd 2025, yn canolbwyntio ar y gofal a ddarperir ar y ddwy ward arbenigol, sy'n cefnogi pobl ag anghenion iechyd meddwl cymhleth mewn amgylcheddau diogel.

Cwm Seren Tudor Parc a Parc Dewi Sant

Ar y cyfan, dywedodd y cleifion wrth yr arolygwyr eu bod yn teimlo'n ddiogel a dywedodd nifer ohonynt fod y staff yn garedig, yn gefnogol ac yn barod i helpu. Gwelodd yr arolygwyr brosesau ymgysylltu cadarnhaol a sensitif hefyd, gan gynnwys y cynnig rhagweithiol ar gyfer y Gymraeg gan staff dwyieithog a mynediad at wasanaeth eirioli. Fodd bynnag, nododd rhai o'r cleifion hefyd feysydd lle mae angen gwella profiad y claf, yn benodol o ran urddas, parch a gwrando gweithredol. Mynegodd rhai o'r cleifion bryderon hefyd fod y matresi yn anghyfforddus ar gyfer arosiadau hir, a soniwyd hefyd am ddewis cyfyngedig ac ailadroddus o brydau bwyd. Nododd yr arolygwyr fod pobl nad oeddent yn gallu gadael y ward yn aml yn diflasu gan nad oedd gweithgareddau strwythuredig ar gael, gan gyfrannu at drefn lai therapiwtig o ddydd i ddydd.

Gwelodd yr arolygwyr bryderon amgylcheddol gan gynnwys paent a oedd yn plicio, llawr wedi'i ddifrodi, ardaloedd llaith, cyfarpar wedi torri, peiriannau dosbarthu sebon annigonol, ystafell ymolchi a oedd yn cael ei defnyddio fel storfa, a materion ystadau a oedd wedi bod yn aros i gael eu datrys ers cyfnodau hir o amser. 

Nid oedd llawer o gyfleoedd ar gyfer gweithgareddau corfforol ychwaith. Nid oedd y rhan fwyaf o'r cyfarpar yn y gampfa yn gweithio, ac nid oedd digon o staff a oedd wedi cwblhau hyfforddiant ar ddefnyddio'r gampfa ar gael i helpu'r cleifion i wneud ymarfer corff yn ddiogel. Nid oedd yr ardd yn cael ei chynnal a'i chadw'n ddigonol, roedd y glaswellt yn rhy hir, ac roedd arwynebau llithrig yn peri risg o gwympo ac yn cyfyngu ar y gweithgareddau y gellid ymgymryd â nhw yn yr awyr agored. Roedd y materion hyn yn lleihau'r cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau corfforol sy'n elfen bwysig o ran gwella iechyd meddwl. Nodwyd materion diogelwch hefyd, fel blanced diogelwch tân yr oedd y dyddiad arni wedi mynd heibio yn ardal ddiod yr Uned Diogelwch Isel a silindr ocsigen yr oedd y dyddiad arno wedi mynd heibio yng nghlinig yr Uned Gofal Seiciatrig Dwys. Cafodd y rhain eu symud ar unwaith a gosodwyd rhai newydd yn eu lle yn ystod yr arolygiad. 

Dywedwyd bod y staff yn gweithio'n galed, yn ofalgar ac yn wydn, ac roedd y systemau ar gyfer rheoli risg, rhoi gwybod am ddigwyddiadau a chynllunio gofal yn gryf ar y cyfan. Nododd yr arolygwyr fod llai o gleifion yn cael eu hatal yn gorfforol, a bod y staff yn canolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar ac ar sicrhau eu bod yn rhoi arferion diogel a thosturiol ar waith pan fo angen defnyddio dulliau atal. Fodd bynnag, roedd lefelau cydymffurfiaeth â hyfforddiant gorfodol, yn enwedig hyfforddiant Cynnal Bywyd Sylfaenol, Cynnal Bywyd Brys a dulliau atal corfforol, yn parhau'n is na'r safonau disgwyliedig. At hynny, nid oedd seicolegydd wedi bod yn gweithio ar y wardiau ers dros ddwy flynedd, a oedd yn cyfyngu ar fynediad at ymyriadau therapiwtig ac asesiadau seicolegol.

Er bod y staff yn dangos ymrwymiad cryf a thosturi, mae angen gwelliannau sylweddol er mwyn mynd i'r afael â risgiau amgylcheddol a risgiau yn ymwneud â diogelwch, gwella cydymffurfiaeth â hyfforddiant, a gwella profiad y claf. Gofynnwyd i'r bwrdd iechyd weithredu'n ddi-oed mewn perthynas â'r argymhellion hyn a sicrhau bod cynnydd yn cael ei fonitro'n drylwyr.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:


Mae'n amlwg fod staff Cwm Seren yn ymrwymedig i ddarparu gofal diogel a thosturiol o dan amgylchiadau a all fod yn heriol iawn. Er i ni weld rhai arferion cadarnhaol a gwaith tîm cryf, nododd ein harolygiad faterion yn ymwneud â'r amgylchedd, diogelwch a phrofiad y claf y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw ar fyrder. Rydym yn disgwyl i'r bwrdd iechyd gymryd camau'n ddi-oed i wella'r amgylchedd therapiwtig, atgyfnerthu hyfforddiant staff, a sicrhau bod cleifion yn cael y gofal parchus ac ymgysylltiol sy'n canolbwyntio ar wella y maent yn ei haeddu. Byddwn yn parhau i fonitro'r cynnydd yn agos.

Tachwedd 2025 - Arolygiad o Wasanaeth Iechyd Meddwl y GIG – Cwm Seren, Tudor House a Parc Dewi Sant, Caerfyrddin