Arolygiad yn canfod bod angen gwneud gwelliannau yn ysbyty iechyd meddwl arbenigol Aber-bîg yn Abertyleri
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (12 Hydref 2023) yn dilyn arolygiad dirybudd o ysbyty iechyd meddwl arbenigol yn Abertyleri. Cynhaliwyd yr arolygiad o Ysbyty Aber-bîg dros dri diwrnod dilynol ym mis Gorffennaf 2023, ac roedd yn canolbwyntio ar Wardiau Bevan a Thaliesin.
Mae'r ysbyty, sy'n caei ei reoli gan ddarparwr annibynnol, Elysium Healthcare, yn cynnig gwasanaethau iechyd meddwl diogelwch isel a chanolig i ddynion a allai gael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl (1983).
Yn ystod ein harolygiad, gwelsom fod protocolau addas ar waith ar y cyfan mewn perthynas â rheoli risg, iechyd a diogelwch a rheoli heintiau. Roedd y lefelau staffio yn briodol i gynnal diogelwch y cleifion, ac roedd y ddogfennaeth statudol a welsom yn cadarnhau bod y cleifion yn cael eu cadw mewn modd priodol gyfreithlon. Fodd bynnag, yn ôl rhai o ganlyniadau'r arolygon, roedd rhaniad ymhlith y staff. Roedd rhai yn teimlo bod digon o adnoddau, ond nid oedd eraill yn teimlo bod lefelau staffio yn ddiogel. Roedd y staff yn ymrwymedig i ddarparu gofal diogel ac effeithiol ac roedd cynlluniau gofal y cleifion yn adlewyrchu anghenion unigol a risgiau. Gwnaethom nodi rhai meysydd i'w gwella, ond ni nodwyd unrhyw feysydd o ddiffyg cydymffurfio â'r rheoliadau.
Nododd y rhan fwyaf o'r cleifion a gwblhaodd holiadur fod y gofal a'r gwasanaeth a ddarperir gan yr ysbyty yn dda iawn. Roedd y staff yn rhyngweithio ac yn ymgysylltu â'r cleifion mewn modd priodol, ac yn eu trin ag urddas a pharch. Roedd y staff y gwnaethom siarad â nhw yn frwdfrydig am eu rolau a'r modd roeddent yn cefnogi eu cleifion ac yn gofalu amdanynt. Roedd amrywiaeth o gyfleusterau a gweithgareddau therapiwtig yn cael eu cynnig i'r cleifion er mwyn cefnogi a chynnal eu hiechyd a'u llesiant. Roedd eiriolwr iechyd meddwl ar gael i'r cleifion hefyd a oedd yn rhoi gwybodaeth a chymorth iddynt o ran unrhyw faterion a allai godi mewn perthynas â'u gofal.
Rhaid i'r lleoliad sicrhau bod byrddau gwybodaeth i gleifion yn cael eu cwblhau'n gyson er mwyn hysbysu'r cleifion yn barhaus a diweddaru'r canllawiau gwybodaeth i gleifion. Roedd dodrefn, gosodiadau a ffitiadau'r ysbyty yn briodol ar gyfer y grŵp cleifion ond roedd angen cynnal archwiliad o bwyntiau clymu ar gyfer Ward Taliesin, a oedd yn peri risg bosibl i ddiogelwch y cleifion. Gwnaethom ofyn i gamau gael eu cymryd ar unwaith yn ystod yr ymweliad arolygu er mwyn ymateb i hyn a rhaid i'r gwasanaeth sicrhau yn awr y caiff y prosesau ar gyfer rheoli risgiau pwyntiau clymu eu dilyn. Yn ystod yr arolygiad, roedd ystafelloedd aml-ffydd yr ysbyty yn anniben. Rhaid iddynt gael eu cynnal a'u cadw'n barhaus er mwyn i'r cleifion allu eu defnyddio.
Roedd gan yr ysbyty gydberthnasau diogelu amlasiantaethol da, ond roedd angen mesurau i wella lefel y manylion a oedd yn cael eu cofnodi fel rhan o adroddiadau diogelu. Gwelsom fod system electronig sefydledig ar waith ar gyfer cofnodi, adolygu a monitro digwyddiadau ond nid oedd rhywfaint o'r wybodaeth wedi'i chysylltu'n briodol â chofnodion y cleifion.
Roedd lefelau cydymffurfiaeth y staff â hyfforddiant gorfodol ar drais ac ymddygiad ymosodol yn uchel, ond nododd yr arolygwyr bod aelod o staff nad oedd wedi cwblhau'r hyfforddiant hwnnw wedi bod yn rhan o achos diweddar lle cafodd claf ei atal yn gorfforol. Rhaid i'r gwasanaeth sicrhau mai dim ond staff sydd wedi cwblhau lefelau addas o hyfforddiant sy'n ymgymryd ag ymyriadau ataliol i ddiogelu cleifion a staff rhag niwed.
Roedd gan yr ysbyty weithdrefnau cadarn ar waith ar gyfer rheoli meddyginiaethau yn ddiogel ac roedd lluniau o'r cleifion wedi'u cynnwys fel rhan o'u cofnodion meddyginiaeth a gafodd ei nodi fel ymarfer da.
Roedd trefniadau llywodraethu sefydledig ar waith i oruchwylio materion clinigol a gweithredol, ond nododd yr arolygwyr nad oedd rhai systemau a phrosesau yn gyson rhwng y wardiau. Dywedodd y rhan fwyaf o'r staff wrthym eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu rolau a'u bod yn fodlon ar drefniadau rheoli'r sefydliad, ond nad oedd unrhyw broses oruchwylio ffurfiol ar waith. Rhaid i'r gwasanaeth roi proses oruchwylio benodol a strwythuredig ar waith sy'n sicrhau bod y staff yn cael eu goruchwylio'n rheolaidd. Gwelsom fod y lefelau staffio yn briodol i gynnal diogelwch y cleifion, ond roedd sawl swydd wag yn mynd drwy broses recriwtio ar adeg ein harolygiad.
Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones:
“Mae'n gadarnhaol nodi ymroddiad y staff i ddarparu gofal diogel ac urddasol yn Ysbyty Aber-bîg. Tynnodd ein harolygiad sylw at rai meysydd i'w gwella a dylai'r gwasanaeth sicrhau y caiff y gwelliannau hyn eu rhoi ar waith. Byddwn yn parhau i ymgysylltu ag Elysium Healthcare Ltd ar ei gynlluniau ar gyfer gwella.”