Neidio i'r prif gynnwy

Arolygiad yn canfod bod angen gwelliannau ar unwaith mewn ysbyty iechyd meddwl annibynnol yn Wrecsam

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (15 Mehefin 2023) yn dilyn arolygiad o Ysbyty Annibynnol New Hall a gaiff ei reoli gan Mental Health Care UK yn Wrecsam.

New Hall CY

Mae'r ysbyty yn darparu gofal arbenigol ar gyfer hyd at 10 claf rhwng 18 a 64 oed, sydd wedi cael diagnosis o anableddau dysgu ac anhwylderau meddyliol.

Canfu'r arolygwyr fod y staff yn trin y cleifion ag urddas a pharch. Fodd bynnag, nodwyd nifer o risgiau yr oedd angen gweithredu yn eu cylch ar unwaith, gan gynnwys nifer o wallau wrth roi meddyginiaethau, diffyg cyfarpar cynnal bywyd ac achosion o dorri rheolau diogelwch tân.

Cwblhaodd AGIC arolygiad dirybudd yn yr ysbyty ar dri diwrnod dilynol ym mis Mawrth 2023. Yn ystod y cyfnod hwn, arolygwyd sawl un o ardaloedd asesu'r cyfleuster, sy'n darparu cyfuniad o ofal dibyniaeth uchel a gofal cymhleth.

Dangosodd ein gwaith fod gan yr ysbyty brosesau da ar waith er mwyn helpu i amddiffyn cleifion a hybu eu hiechyd corfforol, a bod amrywiaeth o gyfleusterau ar gael i gefnogi'r broses o ddarparu therapïau a gweithgareddau. Fodd bynnag, gallai'r staff wneud mwy i gynnal arsylwadau therapiwtig er mwyn ymgysylltu'n well â'r cleifion yn yr ysbyty a'u cefnogi'n well, gan gynnwys cynlluniau gofal a thriniaeth cyfredol wedi'u teilwra at yr unigolyn, gwiriadau iechyd rheolaidd a sicrhau y caiff cwynion eu cofnodi'n effeithiol. 

Nododd yr arolygwyr fod angen gwelliannau pellach, gan gynnwys sicrhau y caiff cyfarpar cynnal bywyd brys ei storio mewn man clir a hygyrch i'r staff allu cael gafael arno mewn argyfwng.  Ar noson gyntaf yr arolygiad, cymerodd staff yr ysbyty tua 10 munud i ddod o hyd i ddiffibriliwr. Nododd yr arolygwyr hefyd fod drysau tân wedi cael eu selio ynghau ac nad oedd yr asesiadau risg tân yn gyfredol. Nid oedd larymau personol yn cael eu rhoi i bob aelod o'r staff a phan ofynnwyd iddynt, nid oedd rhai o'r staff yn gwybod sut i roi gwybod am bryder diogelu. Fodd bynnag, roedd asesiadau risg pwyntiau clymu cyfredol ar gyfer pob ward a oedd yn nodi'r camau gweithredu a gymerwyd i liniaru a lleihau'r risg y byddai cleifion yn defnyddio pwyntiau clymu. Roedd cynlluniau cymorth ac ymyrryd mewn argyfwng ar waith ar gyfer pob claf, ac roeddent wedi'u cwblhau i safon dda.

O'r hyn a welwyd, roedd y staff yn ymrwymedig i ddarparu gofal diogel ac effeithiol ac yn deall eu cyfrifoldebau unigol mewn perthynas â rhoi mesurau rheoli heintiau effeithiol ar waith yn yr ysbyty. Roedd yr ystafelloedd clinig ar bob ward yn lân ac yn daclus ac roedd meddyginiaeth yn cael ei storio'n ddiogel bob amser. Fodd bynnag, ni chafodd yr arolygwyr sicrwydd fod gwallau meddyginiaeth yn cael eu cofnodi a'u rheoli'n effeithiol. Nid oedd unrhyw dystiolaeth i ddangos bod Dadansoddiad o Wraidd y Broblem wedi cael ei gynnal ar gyfer unrhyw un o'r chwe gwall meddyginiaeth a ddigwyddodd yn yr ysbyty yn 2022.  Felly, methwyd cyfleoedd i nodi beth aeth o'i le ac i atal gwallau yn y dyfodol drwy'r gwersi a ddysgwyd.

Roedd y lefelau staffio yn briodol i gynnal diogelwch y cleifion ar y wardiau ar adeg ein harolygiad. Roedd lefelau cydymffurfiaeth â hyfforddiant gorfodol y staff yn uchel ac roedd sgrym diogelwch yn cael ei gynnal bob bore er mwyn i'r staff roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r uwch-reolwyr am unrhyw bryderon. Fodd bynnag, roedd yn amlwg o'r nifer o welliannau a nodwyd yn ystod yr arolygiad nad oedd y prosesau a'r systemau llywodraethu a oedd ar waith yn yr ysbyty yn llwyddo i nodi risgiau a gwelliannau angenrheidiol yn y gwasanaeth yn effeithiol, yn enwedig y rhai hynny sy'n ymwneud â diogelwch uniongyrchol y cleifion.

Mae'r lleoliad wedi llunio cynllun cynhwysfawr sy'n nodi camau gwella. Bydd AGIC yn parhau i fonitro cynnydd yn erbyn y cynllun hwn yn ofalus.

Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones:

‘Mae'r materion a nodwyd yn yr adroddiad hwn yn destun pryder, ac rydym wedi gofyn i'r lleoliad roi sicrwydd ar unwaith y bydd yn ymdrin â'r risgiau i ddiogelwch y cleifion a'r staff. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r gwasanaeth er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau.’

Mawrth 2023 - Adroddiad Cryno ar yr Arolygiad - Ysbyty Annibynnol New Hall

Mawrth 2023 - Adroddiad Arolygu Gwasanaeth Iechyd Meddwl Annibynnol - Ysbyty Annibynnol New Hall