Neidio i'r prif gynnwy

Angen gwella ward iechyd meddwl arbenigol yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (24 Awst) yn dilyn arolygiad dirybudd o ward iechyd meddwl arbenigol yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. Cynhaliwyd yr arolygiad dros dri diwrnod dilynol ym mis Mai 2023, gan ganolbwyntio ar ddarparu gofal diogel ac effeithiol ar ‘Ward F’, sef ward asesu a thrin i gleifion mewnol ar gyfer oedolion â phroblemau iechyd meddwl acíwt.

Canfu'r arolygwyr fod y staff yn ymrwymedig i ddarparu gofal diogel ac urddasol, a bod protocolau addas ar waith i reoli risg, iechyd a diogelwch a rheoli heintiau. Fodd bynnag, roedd angen gwneud gwelliannau mewn perthynas â diogelwch y ward, prosesau rhannu gwybodaeth a phrosesau ar gyfer diweddaru cynlluniau gofal a thriniaeth y cleifion.

Roedd adborth cleifion yn gadarnhaol pan ofynnwyd iddynt am y rhyngweithio rhyngddynt a'r staff, a gwelodd yr arolygwyr enghreifftiau o'r cleifion yn cael eu trin ag urddas a pharch. Roedd cyfraddau cwblhau hyfforddiant gorfodol ymhlith y staff yn uchel, sef bron i 90%, gan gynnwys ar gyfer cyrsiau a oedd yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Roedd yn gadarnhaol gweld bod cyfleoedd i'r cleifion, eu teuluoedd a'u gofalwyr ymgysylltu a rhoi adborth ar y gofal a oedd yn cael ei ddarparu mewn nifer o ffyrdd. Roedd y staff hefyd yn cymryd amser i siarad â'r cleifion ac i ymdrin ag unrhyw anghenion neu bryderon a godwyd ganddynt, a oedd yn dangos agwedd ymatebol a gofalgar tuag at y cleifion.

Wrth edrych ar gofnodion y cleifion, ni chawsom sicrwydd fod y Cynlluniau Gofal a Thriniaeth yn adlewyrchu anghenion unigol y cleifion. Gwelsom nad oedd rhai Cynlluniau Gofal a Thriniaeth yn cael eu diweddaru, nad oedd y wybodaeth ynddynt yn gyfredol neu nad oedd cynlluniau o'r fath ar waith o gwbl. Yn ystod yr arolygiad, gwelsom hefyd nad oedd y bwrdd ‘cipolwg’ i'r staff wedi'i orchuddio, a oedd yn peri risg bosibl o ran cyfrinachedd cleifion. At hynny, oherwydd bod mwy o gleifion, nid oedd digon o le ar y bwrdd i nodi gwybodaeth am bob claf. Roedd hyn yn golygu ei bod yn anodd deall y wybodaeth a gyflwynwyd, gan achosi oedi posibl, dryswch i'r staff a risgiau i'r cleifion.

Gwnaethom edrych ar sampl o gofnodion y cleifion ac ni chawsom sicrwydd fod trefniadau priodol ar waith i ddiwallu eu hanghenion gofal iechyd corfforol. Nid oedd cofnodion rhai o'r cleifion yn nodi a gafodd asesiadau gofal iechyd corfforol eu cynnal adeg eu derbyn. Gwelsom fod un claf wedi cael diagnosis o gyflwr meddygol ond nad oedd unrhyw gynlluniau ar waith i reoli'r cyflwr hwn ar y ward.

Wrth i ni edrych ar gofnodion y cleifion, nid oedd yn glir pa ymyriadau therapiwtig a oedd wedi cael eu rhoi ar waith ar gyfer pob claf er mwyn ei helpu i wella. Dywedwyd wrthym fod rhai gweithgareddau yn cael eu trefnu a'u cynnal gyda'r cleifion, er enghraifft, gwersi coginio a theithiau cerdded. Gwelsom fod rhai llyfrau a gemau ar gael yn yr ystafell fwyta ond roedd yn ymddangos bod diffyg cyfleusterau therapi eraill ar y ward. Rhaid i'r bwrdd iechyd wneud mwy i sicrhau y gall y cleifion gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau i'w helpu i wella.

Yn ôl yr hyn a welsom, prin oedd y wybodaeth ysgrifenedig a oedd ar gael i helpu'r cleifion a'u teuluoedd i ddeall eu gofal. Dywedodd y staff wrthym fod cleifion yn cael taflen wybodaeth pan gânt eu derbyn i'r ward. Fodd bynnag, dywedodd rhai cleifion y gwnaethom siarad â nhw yn ystod yr arolygiad wrthym nad oeddent wedi cael copi o'r daflen. Nodwyd gennym hefyd nad oedd y daflen yn gyfredol a'i bod yn cynnwys gwybodaeth anghywir.

Dywedodd y rhan fwyaf o'r staff wrthym eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu rolau a'u bod yn fodlon ar drefniadau rheoli'r sefydliad. Roedd y lefelau staffio yn briodol i gynnal diogelwch y cleifion ar y wardiau ar adeg ein harolygiad. Hefyd, dywedodd y staff wrthym y byddent yn teimlo'n ddiogel yn codi pryderon am ofal cleifion neu faterion eraill yn yr ysbyty a'u bod yn teimlo'n hyderus y byddai'r bwrdd iechyd yn mynd i'r afael â'u pryderon. Roedd polisi chwythu'r chwiban ar waith i roi arweiniad ar sut y gall y staff godi pryderon. Fodd bynnag, nid oedd rhai aelodau o'r staff y gwnaethom siarad â nhw yn gwybod am y polisi. Dylai'r bwrdd iechyd rannu'r polisi chwythu'r chwiban ac atgoffa'r staff ble y gallant gael gafael arno os bydd ganddynt unrhyw bryderon.

Dywedwyd wrthym fod arolygon boddhad cleifion yn cael eu hanfon at y cleifion ar ôl iddynt gael eu rhyddhau er mwyn helpu i nodi meysydd i'w gwella. Fodd bynnag, ni welsom unrhyw dystiolaeth o newidiadau a oedd wedi'u gwneud o ganlyniad i adborth ffurfiol gan gleifion. Ar adeg yr arolygiad, gwelsom fod 83 y cant o'r staff wedi cael eu harfarniad blynyddol. Fodd bynnag, dywedodd tri o'r deg aelod o staff a gwblhaodd holiadur nad oeddent wedi cael arfarniad yn ystod y 12 mis diwethaf.

Roedd cyfarfod yn cael ei gynnal bob bore i'r staff a'r uwch-reolwyr am unrhyw bryderon, materion neu ddigwyddiadau a fu yn ystod y diwrnod blaenorol. Aethom i un o'r cyfarfodydd hyn a nodwyd bod trafodaethau da yn cael eu cynnal ynghylch anghenion gofal y cleifion.

Gwelsom fod aelodau o staff sy'n siarad Cymraeg ar y ward a bod modd eu hadnabod drwy fathodyn ‘Iaith Gwaith’ a oedd wedi'i frodio ar eu gwisg. Roedd y staff yn ymgymryd â hyfforddiant Cymraeg er mwyn deall pwysigrwydd diwallu anghenion iaith y cleifion. Fodd bynnag, ni welsom unrhyw wybodaeth ddwyieithog i gleifion yn cael ei harddangos ar y ward.

Roedd amrywiaeth o bolisïau iechyd a diogelwch cyfredol ar gael ac roedd asesiadau risg priodol yn cael eu cynnal. Fodd bynnag, roeddem yn teimlo bod angen gwneud gwelliannau pellach i ddarparu amgylchedd mwy diogel i gleifion a staff. Roedd ôl traul ar y ward ac roedd angen ei hailaddurno. Rhaid i'r bwrdd iechyd gydgysylltu â'r contractwyr er mwyn darparu amgylchedd diogel i'r cleifion. Roedd asesiad risg pwyntiau clymu cyfredol wedi cael ei gynnal a oedd yn nodi'r camau gweithredu a gymerwyd i liniaru a lleihau risgiau. Rydym yn argymell y dylai'r bwrdd iechyd gwblhau gwaith adnewyddu pellach i atal pwyntiau clymu fel mater o flaenoriaeth, er mwyn paratoi ar gyfer y cynnydd disgwyliedig yn y galw am y ward gan mai dyma'r unig bwynt asesu ar gyfer y rhanbarth bellach.

Yn ystod yr arolygiad, cawsom wybod am broblemau posibl â'r drws mewnol a oedd yn gwahanu'r ward a'r brif dderbynfa a'r ardal aros. Yn ôl pob tebyg, nid oedd y drws yn ddigon cadarn i atal cleifion rhag dianc. Gwelsom fod larymau personol a setiau radio ar gael i'r staff eu defnyddio pe bai argyfwng. Fodd bynnag, yn ystod yr arolygiad, gwelsom nad oedd y staff yn eu defnyddio. Gwnaethom ofyn am gael gweld y polisi ynghylch defnyddio larymau personol a dywedwyd wrthym nad oedd polisi o'r fath ar waith. At hynny, yn dilyn y gwaith adnewyddu a wnaed yn ystafelloedd gwely'r cleifion, nodwyd bod y gwelyau bellach wedi cael eu symud ymhell oddi wrth y larymau i alw am nyrs felly ni chawsom sicrwydd y gallai'r cleifion alw am gymorth pe bai angen mewn argyfwng.

Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones:

“Mae'n gadarnhaol nodi ymroddiad y staff i ddarparu gofal diogel ac urddasol yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. Rydym wedi argymell nifer o welliannau o ganlyniad i'n harolygiad ac mae'n rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe weithredu mewn modd amserol. Mae'r lleoliad wedi llunio cynllun cynhwysfawr sy'n nodi camau gwella a byddwn yn parhau i fonitro cynnydd y gwasanaeth yn erbyn hwn.”