Neidio i'r prif gynnwy

Angen cysylltu â ni dros gyfnod y Nadolig?

Gwybodaeth am ein hamseroedd agor dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd a sut gallwch gysylltu â ni

Oriau Agor

Dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, byddwn ar agor fel yr arfer o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am i 5pm, heblaw am y dyddiadau canlynol:

  • Rhagfyr 25, 26 a 27 - Ar gau
  • Ionawr 1 - Ar gau

Byddwn ar agor fel yr arfer eto ar 2 Ionawr.

Beth i'w wneud os bydd gennych chi bryder

Os byddwch yn pryderu am y gofal rydych chi, aelod o'ch teulu neu ffrind wedi derbyn neu'n derbyn ar hyn o bryd, cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol i drafod eich pryderon.

Yna os byddwch eisiau ein hysbysu am eich pryder, llenwch eich ffurflen gysylltu.

Os ydych chi yn weithwyr gofal iechyd ac eisiau codi pryder

Os bydd gennych bryderon am rywbeth sy'n digwydd lle rydych chi'n gweithio a allai effeithio ar gleifion, eich cydweithwyr, neu'r sefydliad cyfan, gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar ein tudalen chwythu'r chwiban.

Cyfeiriad diogelu

Os byddwch yn pryderu bod plentyn neu oedolyn yn eich teulu neu'r gymuned mewn perygl o niwed, trais neu esgeulustod, gallwch gysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol yn eich ardal i roi gwybod am bryder diogelu. Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael manylion cyswllt.

Nadolig Llawen o bawb yn AGIC