Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Datguddio Meddygol) (RhYÏ(DM)) 2016-17

Mae’r adroddiad hwn yw crynhoi canfyddiadau ein harolygiadau o adrannau radioleg yn ystod 2016-17.

Rydym yn gyfrifol am fonitro cydymffurfiad â Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Datguddio Meddygol) (RhYÏ(DM)) 2000 (a’u diwygiadau dilynol yn 2006 a 2011). Bwriad y rheoliadau yw amddiffyn unigolion rhag peryglon sy'n gysylltiedig ag ymbelydredd ïoneiddio.

Mae'r adroddiad hwn yn cyfuno ein canfyddiadau ledled adrannau radiotherapi, radioleg a meddygaeth niwclear y GIG a phractisau deintyddol y GIG a phractisau deintyddol preifat Cymru. Mae'n ceisio nodi cryfderau cyffredin a meysydd i'w gwella, ac yn gwneud argymhellion i sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau perthnasol. Mae hefyd yn amlygu arfer da er mwyn cefnogi gwelliant yn y gwasanaethau a ddarperir i gleifion.