Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol 2025-2026: Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn galw am gamau gweithredu i sicrhau gwelliannau parhaol i gleifion

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi ei Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2025-2026 heddiw, sy'n tynnu sylw at yr angen a gynnydd cyflymach i fynd i'r afael â heriau hirhoedlog sy'n effeithio ar wasanaethau gofal iechyd ledled Cymru.

Adroddiad Blynyddol 2025-2026: Neges gan Rhys Jones, Cyfarwyddwr Sicrwydd
Fideo: Neges gan Rhys Jones

 

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ymroddiad parhaus staff gofal iechyd ledled Cymru, ac yn nodi heriau parhaus gan gynnwys mynediad at ofal, llif cleifion, pwysau ar y gweithlu, ac addasrwydd rhai amgylcheddau gofal iechyd sy'n parhau i effeithio ar ansawdd, diogelwch a phrofiadau gofal.

Yn ystod y flwyddyn, cynhaliodd AGIC 216 o arolygiadau ar y safle, derbyniodd 783 o gŵynion gan y cyhoedd, a chlywodd gan fwy na 4,400 o gleifion, teuluoedd a gofalwyr, yn ogystal â mwy na 1,600 o staff gofal iechyd. 

Mae gofal tosturiol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn parhau i fod yn gryfder sylweddol ledled Cymru. Dywedodd cleifion yn gyson fod staff yn garedig, yn barchus ac yn ymrwymedig, a chanfu arolygwyr lawer o enghreifftiau o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn mynd gam ymhellach i gefnogi pobl sy'n derbyn gofal er gwaethaf amgylchiadau heriol. 

Fodd bynnag, mae canfyddiadau AGIC yn dangos bod gwasanaethau gofal iechyd yn parhau i weithredu o dan bwysau sylweddol a pharhaus. Mae'r galw yn uchel o hyd, mae oedi cyn cael triniaeth yn parhau i effeithio ar gleifion, ac mae problemau o ran llif cleifion yn parhau i leihau capasiti mewn gwasanaethau gofal brys, gofal argyfwng a gofal a gynlluniwyd. Mae pwysau ar y gweithlu a dibyniaeth ar staff dros dro hefyd yn effeithio ar wydnwch a chynaliadwyedd y ddarpariaeth gofal iechyd.

Mae'r adroddiad yn nodi nad yw llawer o'r heriau hyn yn newydd. Maent yn themâu sydd wedi dod i'r amlwg dro ar ôl tro drwy arolygiadau, pryderon a godwyd gydag AGIC, a dealltwriaeth ehangach o'r system dros nifer o flynyddoedd. Er bod cynnydd yn cael ei wneud mewn rhai meysydd, nid yw gwelliannau bob amser yn digwydd ar y cyflymder sydd ei angen nac yn cael eu cynnal dros amser, sy'n golygu nad yw cleifion bob amser yn gweld y manteision parhaol y dylent eu disgwyl.

Mae gwasanaethau iechyd meddwl yn parhau i fod yn un o'r meysydd lle nodir y pryderon mwyaf arwyddocaol drwy waith AGIC. Er bod arolygwyr wedi canfod llawer o enghreifftiau o staff ymroddedig yn darparu gofal tosturiol, mae AGIC yn parhau i nodi pryderon ynghylch cyflwr ac addasrwydd rhai o gyfleusterau iechyd meddwl y GIG. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr effaith y gall amgylcheddau gwael ei chael ar ddiogelwch, preifatrwydd, urddas a llesiant cleifion, a'r angen am gamau gweithredu parhaus i fynd i'r afael â materion hirhoedlog.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi twf a newid parhaus yn y sector gofal iechyd annibynnol, gan gynnwys gofal iechyd preifat, asiantaethau meddygol, gwasanaethau estheteg, llesiant a rheoli pwysau. Er bod hyn yn cynnig mwy o ddewis i gleifion, mae AGIC yn parhau i nodi pryderon ynghylch darparwyr anghofrestredig ac ymarfer anniogel. Mae'n tynnu sylw at bryderon nad yw'r trefniadau rheoleiddio presennol o bosibl yn darparu digon o oruchwyliaeth mewn rhai meysydd gofal iechyd sy'n ehangu'n gyflym, yn enwedig triniaethau laser ac esthetig.

Mae'r pryderon a godwyd gydag AGIC yn parhau i adlewyrchu'r pwysau ehangach sy'n wynebu gwasanaethau gofal iechyd, gyda'r materion mwyaf cyffredin yn ymwneud ag amseroedd aros, pwysau ar ofal argyfwng, mynediad at wasanaethau meddygon teulu a deintyddol, a gofal iechyd meddwl.

Mae'r adroddiad yn adlewyrchu ehangder gwaith AGIC ar draws gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru, gan gynnwys gwasanaethau'r GIG, gofal iechyd annibynnol, gwasanaethau iechyd meddwl, gofal sylfaenol, a gwasanaethau deintyddol. Mae'n tynnu sylw at feysydd o ymarfer da a meysydd lle mae angen gwella, gan nodi heriau sy'n dod i'r amlwg mewn perthynas â modelau darparu gofal iechyd sy'n newid a disgwyliadau cynyddol ymhlith cleifion.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

“Mae'r adroddiad hwn yn rhoi darlun clir ac annibynnol o ansawdd gofal iechyd ledled Cymru. Ar draws y GIG yng Nghymru, rydym yn parhau i weld staff gofal iechyd ymroddedig yn darparu gofal tosturiol mewn amgylchiadau sy'n aml yn heriol, a'r ymrwymiad hwnnw yw un o gryfderau mwyaf ein system gofal iechyd o hyd.

Fodd bynnag, nid yw llawer o'r heriau a nodwyd yn yr adroddiad hwn yn newydd. Mae materion sy'n ymwneud â mynediad at ofal, llif cleifion, pwysau ar y gweithlu ac amgylcheddau gofal iechyd yn parhau i gael eu nodi drwy ein harolygiadau, pryderon a godwyd gyda ni a dealltwriaeth ehangach o'r system.

Mae dealltwriaeth dda o'r heriau hyn. Yr hyn sy'n peri pryder o hyd yw pa mor araf y mae gwelliannau'n cael eu gwneud a'r graddau y maent yn cael eu cynnal dros amser. Mae angen i gleifion weld gwelliannau pendant o ran eu profiad o wasanaethau gofal iechyd a manteision parhaol yn dilyn newid.

Ar drothwy cyfnod newydd o lywodraeth yng Nghymru, mae cyfle clir i fynd i'r afael â rhai o'r heriau hirhoedlog hyn. I wneud hyn, bydd angen camau gweithredu wedi'u targedu, atebolrwydd clir ac ymdrech gydlynol ar draws y system gofal iechyd. Mae'r dystiolaeth yn glir, mae'r heriau'n hysbys, ac mae angen i gleifion weld cynnydd yn trosi'n welliant ystyrlon a pharhaol.

Bydd AGIC yn parhau i roi sicrwydd annibynnol, tynnu sylw at ymarfer da a meysydd sy'n peri pryder, a defnyddio ei llais i gefnogi gwelliannau i bobl Cymru."

Adroddiad Blynyddol 2025-2026

Adroddiad Blynyddol 2025 - 2026
Hawdd ei Ddeall Adroddiad Blynyddol 2025 - 2026