Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad o Ryddhau Cleifion o'r Ysbyty i Bractisau Cyffredinol

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn adolygiad o wasanaethau rhyddhau cleifion o'r ysbyty yng Nghymru.

Yn ystod ein harolygiadau, gwelsom nad yw cyfathrebu rhwng ysbytai a phractisau cyffredinol, pan gaiff claf ei ryddhau o'r ysbyty, yn effeithio ar eu gofal.

Mae cleifion yn disgwyl i'w gwybodaeth gael ei throsglwyddo'n gyflym ac yn gywir o'r ysbyty i bractisau cyffredinol fel nad oes unrhyw beth yn amharu ar y gofal y gall fod ei angen arnynt. Nid yw hyn yn wir bob amser.

Yr hyn a wnaethom 

Yn ystod yr adolygiad, gwnaethom ystyried y canlynol:

  • Faint o wybodaeth a ddarperir gan wasanaethau gofal iechyd eilaidd i wasanaethau gofal iechyd sylfaenol, ansawdd y wybodaeth honno, a ph'un a ellir ei wella;
  • Amseroldeb a chywirdeb gwybodaeth am ryddhau cleifion o'r ysbyty
  • Sut y mae diffyg gwybodaeth wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty wedi effeithio ar y gofal a ddarperir i gleifion;
  • Cydymffurfiaeth â chanllawiau a Safonau Iechyd a Gofal Llywodraeth Cymru; 
  • Deall y prosesau y mae ysbytai a phractisau cyffredinol yn eu defnyddio ar gyfer rhannu gwybodaeth a ph'un a ellir gwella'r rhain

Yr hyn a nodwyd gennym

  • Mae rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn electronig (e-ryddhau) wedi cael effaith gadarnhaol ar ansawdd y wybodaeth a pha mor amserol y mae meddygon teulu yn cael y wybodaeth honno. 
  • Mae'r broses o ryddhau cleifion fel arfer yn fwy effeithlon os caiff staff fferyllfa ar y ward eu defnyddio
  • Mae angen i weithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â gofal cleifion gymryd mwy o gyfrifoldeb am sicrhau eu bod yn darparu gwybodaeth amserol, gywir a pherthnasol i gydweithwyr er mwyn sicrhau gofal parhaus
  • Mae angen mwy o eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hynny sy'n rhan o'r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty, ac mae angen cydberthnasau cryfach rhwng meddygon teulu ac ysbytai
  • Yn aml, nid oes digon o ymgysylltu â chleifion na theuluoedd ynghylch y ffordd y caiff cleifion eu rhyddhau na phryd y gwneir hynny


Mae AGIC wedi gwneud 13 o argymhellion i sefydliadau gofal iechyd GIG Cymru a GIG Cymru eu hystyried o ganlyniad i'r canfyddiadau hyn.