Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad o gymorth gofal iechyd i bobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cynnal adolygiad ar y cyd ar y ffordd y gallwn gydweithio i sicrhau bod anghenion gofal iechyd pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal yn y Gogledd yn cael eu diwallu.

Cynhaliwyd yr adolygiad mewn ymateb i adroddiad gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, "Lle i'w Alw'n Gartref", a gyhoeddwyd yn 2014. 

Nod yr adolygiad hwn oedd archwilio'r canlynol: 

  • Y ffordd y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) yn diwallu anghenion gofal iechyd pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal preswyl neu nyrsio, naill ai'n uniongyrchol drwy ddarparu gwasanaethau, neu drwy ei drefniadau contractio â darparwyr gofal sylfaenol. 
  • Profiad Rheolwyr Cartrefi Gofal o gael gafael ar gymorth gofal iechyd i bobl gan y GIG 
  • Y ffordd y gall Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (HIW) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) weithio mewn ffordd fwy integredig i wella'r canlyniadau i bobl sy'n byw mewn cartrefi gofal.

Yr hyn a wnaethom

Edrychom ar gartrefi gofal y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn eu darparu mewn chwe sir yn y Gogledd: Sir Fôn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. 

Sefydlwyd grŵp ymgynghorol er mwyn helpu i lunio a llywio'r adolygiad. Roedd yn cynnwys cynrychiolwyr o ddarparwyr, y bwrdd iechyd, comisiynwyr yr awdurdod lleol, y Comisiynydd Pobl Hŷn a chydweithwyr polisi o Lywodraeth Cymru. 

Roedd yr adolygiad yn ystyried hygyrchedd, amseroldeb ac effeithiolrwydd amrywiaeth o gymorth gofal iechyd. 

Yr hyn a nodwyd gennym 

Roedd yr adborth yn amrywiol yn y rhan fwyaf o'r meysydd gwasanaeth a ystyriwyd, ond roedd angen mynd i'r afael â rhai materion cyffredin er mwyn darparu gofal di-dor ac o ansawdd da i breswylwyr a chleifion unigol. 

Yn benodol:

  • Rolau a chyfrifoldebau clir: mae angen disgrifio rôl pob sefydliad / proffesiwn / unigolyn yn y system ofal a chymorth yn glir ac mae angen i bawb ei ddeall 
  • Hyfforddiant: dylai hyfforddiant fod ar gael i roi cymorth i bawb chwarae eu rhan yn y system yn effeithiol a dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau y gellir rhyddhau'r staff i ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw 
  • Llwybrau mynediad: pan fydd angen mwy o gyngor neu gymorth yn sgil anghenion sy'n newid, dylid sicrhau eu bod ar gael yn hawdd a dylai'r ymateb y gall y person sy'n gofyn am y cymorth ei ddisgwyl fod yn glir 
  • Adborth: dylid rhoi prosesau ar waith i sicrhau y rhoddir adborth parhaus ynglŷn â materion a phryderon er mwyn nodi patrymau a datrys materion 
  • Cydweithredu a phartneriaethau: dylai sefydliadau gydweithio â'i gilydd er mwyn cyflawni prif fuddiannau'r boblogaeth y maent yn ei gwasanaethu. Pan fydd materion yn codi, dylid cydweithredu i fynd i'r afael â nhw er mwyn cael datrysiad ymarferol a chynaliadwy. 

Mae llawer o'r materion y mae'r adroddiad yn eu trafod yn adlewyrchu'r rheini a nodwyd yn adolygiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn 2014 ac maent yn effeithio ar lesiant pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal yn uniongyrchol. 

Gwnaeth ein gwaith nodi'r canlynol: 

  • Roedd y cymorth ar gyfer cartrefi gofal gan wasanaethau y tu allan i oriau meddygon teulu yn gymysg, ac roedd yn cynnwys adroddiadau a ddangosodd bod preswylwyr yn cael eu cludo i'r ysbyty'n ddiangen ar adegau gan nad oedd y meddyg teulu y tu allan i oriau ar gael i ddelio â chyflyrau y gellid bod wedi'u datrys yn eu cartref eu hunain, gyda'r cymorth priodol.
  • Roedd cymorth ac arferion gwasanaethau nyrsio cymunedol yn amrywiol ledled y rhanbarth. 
  • Mae unigolion yn cael profiad cadarnhaol o ddefnyddio gwasanaethau ffisiotherapi neu therapi galwedigaethol unwaith y mae eu cymorth wedi cychwyn, er bod diffyg eglurdeb yn ymddangos ynghylch y trefniadau ar gyfer defnyddio'r gwasanaethau yn ogystal ag amseroedd aros hir ar gyfer ymweliadau ac asesiadau yn y cartref. 
  • Mae'n amlwg bod diffyg ymwybyddiaeth o'r cymorth, y gwasanaethau a'r cynhyrchion y mae'r bwrdd iechyd yn eu cynnig o ran ymataliaeth. 
  • Ystyriwyd yr amseroedd aros ar gyfer cymorth Nyrsys Seiciatrig Cymunedol fel problem yn gyffredinol, er bod ansawdd y gofal pan oedd cymorth ar gael yn cael ei ystyried yn dda.  
  • Derbyniwyd llawer o adborth negyddol ynglŷn â rhyddhau cleifion i gartrefi gofal yn ardal y Gogledd. 
  • Roedd y cartrefi gofal yn trafod yr hyfforddiant a ddarparwyd mewn ffodd gadarnhaol ar y cyfan ac roeddent yn gallu nodi sawl enghraifft o hyfforddiant ychwanegol defnyddiol. Roedd hi'n siomedig felly i nodi bod llai na hanner y llefydd ar gyrsiau hyfforddiant a ddarparwyd gan y bwrdd iechyd wedi cael eu llenwi yn 2017. 

Camau Nesaf

Mae'r adroddiad yn nodi 16 o feysydd ar gyfer gwella. Bydd AGIC/AGC yn gweithredu arnynt lle y bo'n briodol. 

Bydd AGC yn sicrhau y caiff y mynediad i gael cymorth gofal iechyd ei ymgorffori o fewn y fframweithiau arolygu sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd a bydd yn trafod y materion â'r byrddau iechyd perthnasol.