Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Lleol o Wasanaethau Sgrinio'r Fron yn Iechyd Cyhoeddus Cymru

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yw’r arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru. Fel rhan o’n rôl, rydym yn cynnal trosolwg o bob un o’r tri Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru

Roeddem wedi ymrwymo i wneud gwaith ym mhob un o'r Ymddiriedolaethau yn ystod 2019–20. Iechyd Cyhoeddus Cymru yw un o’r tri Ymddiriedolaethau ac mae’n rhedeg Bron Brawf Cymru, y rhaglen sgrinio’r fron y GIG yng Nghymru . Mae sgrinio’r fron ar gael yn rheolaidd i bob merch sydd rhwng 50 a 70 oed.

Mae’r fenywod sy’n cael eu gwahodd i sgrinio yn ansymptomatig (does dim symptomau), a dim ond nifer bach iawn o'r fenywod sy’n gael eu sgrinio’n mynd ymlaen i gael diagnosis cadarnhaol o ganser.  Wrth gwrs, gall fod yn amser pryderus i fenywod tra'n aros am ganlyniadau sgrinio, felly dylid cael cyn lleied o aros â phosibl i'w derbyn.

Roeddem yn cynnal adolygiad er mwyn asesu sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n sicrhau’r broses o sgrinio'r fron yn cael ei reoli'n amserol ar gyfer menywod sy'n cael canlyniad mamogram abnormal. Roeddem yn ystyried y daith trwy’r gwasanaethau o'r apwyntiad sgrinio cychwynnol hyd at y cam o wneud penderfyniad ynghylch trosglwyddo i Fwrdd Iechyd am driniaeth.

Mae’r adroddiad terfynol yr adolygiad isod. Mae'n bwysig nodi y cafodd yr adolygiad hwn a'r gwaith maes eu cynnal cyn pandemig COVID-19 a'n bod wedi oedi'r broses o gyhoeddi'r adroddiad hwn yn sgil ein mesurau i leihau baich ein gwaith ar wasanaethau pan oedd y pandemig ar ei waethaf. Felly, nid yw'r adolygiad wedi ymchwilio i'r ffordd y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyflawni ei rôl yn ystod y pandemig.