Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Cenedlaethol o Atal Argyfyngau Iechyd Meddwl yn y Gymuned

Yn ein Cynllun Gweithredu ar gyfer 2019-2020, ymrwymom ni i raglen o adolygiadau cenedlaethol, gan gynnwys argyfyngau mewn meddwl. Roedd y penderfyniad i gynnal yr adolygiad hwn yn seiliedig ar nifer o bryderon yn ymwneud â gallu pobl i gael gofal amserol, i'w hatal rhag cyrraedd sefyllfa o argyfwng gyda'u hiechyd meddwl. 
Wrth gynnal yr adolygiad cenedlaethol hwn, bu'n rhaid i wasanaethau iechyd a gofal ledled Cymru ateb heriau pandemig byd-eang Covid-19. Yn sgil y sefyllfa sydd ohoni rhoddwyd pwysau unigryw, nas gwelwyd o'r blaen, ar y system. Bydd yr adolygiad yn ystyried sut mae gwasanaethau wedi addasu a newid i ymdopi â'r pwysau hyn. 

Y brif gwestiwn y bydd ein hadolygiad yn ceisio'i ateb yw: 

  • A yw argyfyngau iechyd meddwl yn cael eu hatal yn y gymuned, drwy ofal amserol a phriodol?

Drwy gydol yr adolygiad, byddwn yn ystyried y canlynol: 

  • Profiadau'r bobl sy'n cael gofal a thriniaeth 

Bydd hefyd yn ystyried sut mae gwasanaethau ar gael yn y gymuned ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru yn gwneud y canlynol:

  • Darparu gwasanaethau diogel ac effeithiol er mwyn helpu i atal argyfwng iechyd meddwl
  • Deall y cryfderau a'r meysydd i'w gwella er mwyn helpu i atal argyfwng iechyd meddwl