Neidio i'r prif gynnwy

“Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai'n digwydd i mi” – Diwrnod Sepsis y Byd

Er mwyn cefnogi Diwrnod Sepsis y Byd, mae Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones, yn rhannu ei brofiad o oroesi Sepsis.

Alun Jones - Prif Weithredwr AGIC

Beth yw Sepsis?

Sepsis yw ymateb y corff i haint sy'n peryglu bywyd. Mae'n digwydd pan fydd eich system imiwnedd yn gorymateb i haint ac yn dechrau niweidio meinweoedd ac organau eich corff eich hun. Gall unrhyw un ddatblygu Sepsis ar ôl cael anaf neu haint. Mae dros 50% o gleifion sydd wedi goroesi Sepsis yn dioddef o'r canlyniadau am weddill eu hoes.

Mae 1 o bob 5 o farwolaethau ledled y byd yn gysylltiedig a sepsis

Stori Alun: ‘Fel y rhan fwyaf o bobl, doeddwn i erioed wedi meddwl y byddai Sepsis yn rhywbeth y byddai rhaid i mi boeni amdano.’

Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi clywed am Sepsis ac yn gwybod ei fod yn salwch difrifol sy’n bygwth bywyd. Fel y rhan fwyaf o bobl, doeddwn i erioed wedi meddwl y byddai Sepsis yn rhywbeth y byddai’n rhaid i mi boeni amdano. Hyd yn oed nawr, mae ysgrifennu geiriau fel 'Cefais driniaeth Sepsis' ac 'Rwy'n ffodus fy mod i yma i adrodd yr hanes’ yn fy synnu.

Wrth i mi edrych yn ôl ar fy mhrofiad, mae dau beth yn fy nharo. Yn gyntaf, pa mor gyflym y dirywiodd fy iechyd ac, yn ail, ni ddywedodd neb wrtha'i fod gen i Sepsis – does dim gwahaniaeth beth maen nhw'n ei alw os mai'r flaenoriaeth yw eich pwmpio'n llawn gwrthfiotigau cyn gynted â phosibl! Gan ei bod yn Diwrnod Sepsis y Byd, penderfynais rannu fy mhrofiad yn y gobaith y bydd yn codi ychydig mwy o ymwybyddiaeth ac yn annog pobl i gymryd eu hiechyd o ddifrif ac i ymateb yn gyflym.

Yn 2018, roeddwn i’n mwynhau penwythnos hyfryd i ffwrdd pan dorrais i fy mys â chyllell finiog wrth i mi baratoi brecwast llawn (wrth edrych yn ôl, gallaf gadarnhau bod prydau wedi'u ffrio yn ddrwg i chi!). Doedd y marc ar fy mys ddim mwy na phigyn fforc ac, a dweud y gwir, fyddech chi brin wedi sylwi arno. Golchais fy mys a rhoi plastr arno, gan feddwl bod gwneud hynny hyd yn oed yn mynd dros ben llestri braidd. Wnes i ddim meddwl am y bys eto tan 48 awr yn ddiweddarach, fore Llun, pan ddechreuodd fy mys guro ychydig. Rhoddais ychydig o hufen diheintio a phlaster arall arno, ac i ffwrdd a mi i'r gwaith yn llawen. 

Erbyn diwedd y bore, roedd wedi gwaethygu, felly es i'r uned mân anafiadau leol am gyngor. Fe wnaethant dynnu fy sylw at y ffaith fod y gwythiennau ar gefn fy llaw wedi mynd ‘braidd yn goch’ ac y dylwn i gadw golwg arnynt. Fe wnaethant ddefnyddio pin ffelt i ddangos lle'r oedd y coch wedi cyrraedd ar fy llaw, gan ddweud wrtha'i pe bai'n mynd yn uwch i fyny fy mraich, neu os oeddwn i'n mynd i deimlo'n boeth neu'n oer, y dylwn i fynd i'r adran damweiniau ac achosion brys. Fe ddychwelais i i'r gwaith gyda gwrthfiotigau gan feddwl y byddent wedi cychwyn gwneud eu gwaith cyn i mi fynd adref ac y byddwn i'n teimlo'n well. 

Ond erbyn tua 4pm y diwrnod hwnnw, roeddwn i'n llusgo fy hun i'r adran damweiniau ac achosion brys, un munud â thwymyn a chryndod, a'r munud arall yn teimlo na allwn i wneud dim ond mynd i gysgu. Pe bawn i wedi aros i fynd i'r adran damweiniau ac achosion brys, mi fydden nhw wedi gorfod fy nghludo yno mewn ambiwlans!

Roedd tua 25 o bobl yn aros yn fy adran damweiniau ac achosion brys leol. Eisteddais am lai na munud cyn y cefais fy ngalw i fynd drwodd i'r ardal driniaeth. Gan fy mod fymryn yn gyfarwydd â'r ffordd mae brysbennu yn gweithio, roedd hyn yn galonogol ond eto ychydig yn frawychus. O fewn tua deng munud ers i mi gyrraedd yr adran damweiniau ac achosion brys, roeddwn i'n sownd i wrthfiotigau mewnwythiennol a pharasetamol. Roedd fy nhymheredd oddi ar y siartiau yn llythrennol felly roedd gen i wyntyll i fy helpu i oeri. Yn ddiweddarach y noson honno, cefais fy symud i ward ac, yn y pen draw, cefais ddychwelyd adref ddydd Iau'r wythnos honno – y daith hiraf adref o'r gwaith rydw i erioed wedi'i chymryd! Yn ystod y cyfnod hwn, cefais fy nhrin â thri math gwahanol o wrthfiotigau trwy arllwysiad mewnwythiennol oedd bron yn barhaus. Roedd rhaid i mi barhau i gymryd meddyginiaeth am wythnos arall wedi i mi fynd adref a bu'n rhaid i mi gymryd pythefnos o'r gwaith i gyd. Roeddwn i'n teimlo'n sâl am o leiaf mis wedyn, yn bennaf oherwydd sgil-effaith y gwrthfiotigau cryf.

Yn ôl Ymddiriedolaeth Sepsis y DU, mae tua 250,000 o achosion o sepsis bob blwyddyn. Er eu bod wedi bod yn ddiwrnodau anodd a brawychus, penderfynais rannu fy mhrofiad gan fod y canlyniad wedi bod yn gadarnhaol ac rwy'n ystyried fy hun yn ffodus iawn fy mod wedi goroesi. Gallai pethau fod wedi bod yn wahanol iawn pe bai'r driniaeth wedi cael ei gohirio. Alla'i ddim dychmygu beth fyddai wedi digwydd pe bawn i wedi parhau hefo nghynllun gwreiddiol y diwrnod hwnnw, sef mynd adref a brwydro drwy'r boen! Os oes gennych unrhyw bryderon, dylech ofyn am sylw meddygol cyn gynted â phosibl.


Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hyn sy'n achosi sepsis, ynghyd â'r symptomau a'r driniaeth, ar wefan Galw Iechyd Cymru.